Priodasau

Mae’r Plasty cain, encil dinesig mwyaf urddasol Caerdydd, yn lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod pwysicaf eich bywyd. Os ydych yn breuddwydio am leoliad tylwyth teg, eang ar gyfer eich diwrnod priodas, ni chewch eich siomi gan y tŷ arbennig hwn. Mae lleoliad priodas unigryw gyda bwyd rhagorol yn sicrhau diwrnod i’w gofio i chi a’ch gwesteion. Bydd y gerddi prydferth a’r ystafelloedd mawreddog, ysblennydd yn darparu atgofion ffotograffig i chi eu mwynhau am flynyddoedd i ddod. Gyda thrwydded ar gyfer priodasau a seremonïau sifil, manteisiwch ar ein henw da fel un o leoliadau priodas mwyaf moethus a phoblogaidd yng Nghymru a dewch i ddathlu mewn steil.

Pecyn priodas arbennig ar gael nawr

© 2017 Hawlfraint Y Plasty, Heol Richmond, Caerdydd CF24 3UN

Cysylltu